Darparu atebion i broblemau sy'n effeithio ar gymdeithas a'r economi yw'r hyn sy'n sail i ymchwil yn PDC. Gan gydweithio ar draws sectorau, mae ein hymchwilwyr yn dod â thalent ac arbenigedd i helpu cymunedau, busnesau a llunwyr polisi i wneud gwahaniaeth i gymdeithas. Mae ein hymchwil yn gysylltiedig â'r byd o'n cwmpas, gan ymgysylltu â heriau a chyfleoedd i wneud yfory'n well. Mae gan bron i ddwy ran o dair o ymchwilwyr PDC a gyflwynwyd i REF 2021 ymchwil sydd wedi’i chategoreiddio fel ymchwil sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4* neu 3*).
Ysgol i Raddedigion
8 Forest Grove
PDC
Trefforest Campws
CF37 1DL
Ffon: 01443 482881
E-bost: [email protected]
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi cael ei henwi fel y sefydliad gorau ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig mewn arolwg cenedlaethol.
Yn Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig (PRES) blynyddol Advance HE, derbyniodd PDC safle cyntaf ar gyfer boddhad myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig (PGR), sef 89%, a oedd 10% yn uwch na chyfartaledd y sector a 7.9% yn uwch na sefydliadau eraill Cymru. Mae hyn yn gynnydd o 6% mewn perfformiad o'i gymharu â'r llynedd.
Gallwch ddarllen mwy am y canlyniadau yma.
Rydym yn cynnig nifer o raglenni gradd ôl-raddedig ochr yn ochr â PhDs, gan gynnwys doethuriaethau proffesiynol a Graddau Meistr drwy Ymchwil. Gallwch awgrymu eich pwnc ymchwil eich hun neu wneud cais am gyfle penodol a hysbysebir. Gallwch wneud cais am PhD / Gradd Meistr drwy Ymchwil hunan-gyllidol yn un o'r meysydd canlynol.
Rydym yn cynnig opsiynau llawn amser a rhan-amser, yn ogystal â chyfleoedd i ymgymryd â'ch gradd ymchwil ôl-raddedig o bell, yn dibynnu ar natur eich prosiect a'r gofyniad i gael mynediad i gyfleusterau 'ar y campws'. Mae astudio o bell yn ddelfrydol ar gyfer myfyrwyr sydd ag ymrwymiadau sy'n eu hatal rhag adleoli neu'r rhai sy'n dymuno gwneud gradd ymchwil fel rhan o'u gyrfa broffesiynol, ac y mae'r ymchwil yn rhan annatod o'u rôl ddyddiol.
Mae myfyrwyr sy'n astudio o bell yn cael yr un lefel o gymorth a goruchwyliaeth â myfyrwyr ar y campws. Os credwch y gallai astudio o bell fod i chi, trafodwch gydag Ysgol y Graddedigion a'ch goruchwylwyr arfaethedig yn ystod y broses dderbyn fel y gallant eich cynghori yn unol â hynny.
Mae Ysgol y Graddedigion yn gweithio mewn partneriaeth â'ch tîm goruchwylio i'ch cefnogi drwy gydol eich gradd ymchwil ôl-raddedig. Ein rôl yw eich helpu i gwblhau eich gradd ymchwil mewn modd amserol a hefyd i gynnig rhaglen helaeth o hyfforddiant a datblygiad fel y gallwch gyflawni eich potensial fel ymchwilydd ôl-raddedig. Mae ein hyfforddiant yn cyd-fynd â Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae.
Yn ogystal â'r cyngor a'r cymorth a ddarperir gan Ysgol y Graddedigion a'ch tîm goruchwylio, mae Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn gweithio tuag at wella ansawdd profiad myfyrwyr drwy gysylltu ag uwch reolwyr o'r Brifysgol, gweithredu ar farn a phryderon myfyrwyr, a sicrhau bod myfyrwyr yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am fentrau a datblygiadau cyfredol PDC. Mae gan bob Cyfadran ei chynrychiolydd ymroddedig ei hun.
Fel myfyriwr ymchwil ôl-raddedig, gallwch elwa o lawer o wasanaethau, cyfleusterau a chymorth eraill fel ein llyfrgell ar-lein; Cymorth TG a benthyg offer; Llesiant; a'r Gwasanaeth Anabledd sy'n darparu ystod o gymorth i fyfyrwyr ag anableddau.
Mae gennym hefyd gynrychiolwyr myfyrwyr ymchwil ar gyfer pob Cyfadran.
Mae gennym dros 400 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn PDC. Yn Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedig 2022/23, roedd PDC yn y 1af safle yn gyffredinol am foddhad myfyrwyr.
Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF2021), gydag 81% o effaith ymchwil PDC yn cael ei ddosbarthu fel un sy’n arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4*/3*).
Rydym yn cynnig nifer o raglenni ymchwil ôl-raddedig ochr yn ochr â PhDs, gan gynnwys Graddau Meistr drwy Ymchwil a PhD yn ôl Portffolio. Gallwch awgrymu eich pwnc ymchwil eich hun neu wneud cais am brosiect a hysbysebir.
Pan fyddwch yn ymuno â PDC fel ymchwilydd ôl-raddedig, byddwch yn dod yn aelod o Ysgol y Graddedigion yn awtomatig. Byddwch yn cael person ymroddedig a fydd yn eich cefnogi o gais drwodd i ddyfarniad.
Mae Ysgol y Graddedigion yn darparu rhaglen eang o hyfforddiant a datblygiad. Mae ein Cynhadledd Ymchwil Ôl-raddedig Flynyddol yn rhoi cyfle i chi ymarfer eich sgiliau cyflwyno a rhwydweithio gyda chyfoedion.
Rydym yn cynnig cyfleoedd ar gyfer ymgysylltiadau allanol i wella eich sgiliau ac ymestyn eich rhwydweithiau proffesiynol gan gynnwys cyflwyno mewn cynadleddau, ymgymryd â darlithio sy'n talu fesul awr neu weithio gydag ysgolion drwy Gynllun Llysgenhadon Myfyrwyr PDC, Brilliant Club neu Soapbox Science.
Mae Prifysgol De Cymru mewn rhan eithriadol o'r DU, gyda bywyd y ddinas, mynyddoedd ac arfordir. Mae gennym dri champws yn ardal Caerdydd, prifddinas Cymru, sy'n hawdd eu cyrraedd ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd. Gweler ein teithiau campws isod.
Yn ogystal ag astudio ar y campws, rydym yn cynnig yr opsiwn i gwblhau eich astudiaethau o bell. Mae'r llwybr o bell yn eich galluogi i weithio mewn lleoliad sy'n gweddu orau i'ch gofynion, a gallwch ddewis astudio naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser.
Rydym hefyd yn cymryd rhan yng nghynllun Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Wybodaeth (KESS 2) a ariennir gan ESF, sy'n darparu astudiaeth Meistr drwy Ymchwil a ariennir mewn cydweithrediad â phartner busnes neu gwmni gweithredol.