19-09-2023 am 11am i 19-09-2023 am 12.30pm
Lleoliad: TRJ265, Campws Trefforest
Cynulleidfa: Public
Cost: am ddim
Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfle i ymchwilwyr ôl-raddedig ddysgu gan uwch ymchwilwyr am eu taith academaidd eu hunain a lle i gwrdd ag ymchwilwyr eraill o bob rhan o'r Brifysgol.
Yn y sesiwn hon, mae'r Athro Katy Holloway yn siarad â Mark Llewellyn am sut y mae wedi rheoli ei llwyth gwaith gyda'r ymrwymiadau addysgu ac ymchwil sydd eu hangen yn ei gyrfa academaidd. Bydd Katy yn trafod ei phrofiadau ac yn rhoi awgrymiadau i ymchwilwyr academaidd eraill a allai fod yn wynebu heriau tebyg.
Mae Katy Holloway yn Athro Troseddeg ym Mhrifysgol De Cymru. Cyn hynny, bu Katy yn gweithio fel dadansoddwr data yn y Sefydliad Troseddeg ym Mhrifysgol Caergrawnt ar ôl cwblhau ei PhD. Mae hi wedi cynnal astudiaethau sydd wedi ymchwilio i ystod eang o faterion yn ymwneud â chyffuriau. Yn fwy diweddar, bu Katy yn rhan o ymchwil yn ymchwilio i ganlyniadau anfwriadol posibl cyflwyno isafbris ar gyfer alcohol yng Nghymru.
Mae athroniaeth lleihau niwed yn sail i ymchwil Katy ac mae hi'n aelod o Fwrdd Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Atal Gwenwyn Cyffuriau, ac yn aelod o Fwrdd Gweithredol Dyfodol, IRIS, Consortiwm Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent a Dyfed o ddarparwyr triniaethau camddefnyddio sylweddau. Yn ddiweddar cafodd ei phenodi'n Gadeirydd Is-grŵp Kaleidoscope ar gyfer Ymchwil, Datblygu ac Arloesi ac mae wedi cael cyllid gan HEIRF i dreulio amser yn gweithio mewn partneriaeth â Kaleidoscope i helpu i sefydlu Sefydliad Ymchwil, Datblygu ac Arloesi.
Gellir anfon cwestiynau am y digwyddiad at Jess Butland, Swyddog Amgylchedd Ymchwil