Mae PDC yn cynnig ystod eang o wasanaethau i gefnogi eich lles a'ch iechyd meddwl. Mae'r gwasanaethau hyn ar agor pob myfyriwr.
Mae'r Gwasanaeth Llesiant ar gael i'ch helpu gyda'ch iechyd corfforol a meddyliol, lles cymdeithasol, ac i'ch cefnogi wrth ichi astudio. Maen nhw'n cynnig mynediad at adnoddau ar-lein, gweithdai a chyrsiau byr, yn ogystal â chymorth iechyd meddwl a chwnsela.
Fodd bynnag, deallwn fod y daith PGR yn unigryw ac ar adegau, yn gallu bod yn heriol. Rydym am i chi wybod nad ydych chi ar eich pen eich hun, ac mae'r Brifysgol yma i'ch cefnogi. Yn ogystal â'r cymorth arbenigol a ddarperir gan y Gwasanaeth Llesiant, mae gennym rywfaint o wybodaeth a gweithgareddau'n benodol ar gyfer myfyrwyr PGR.
Mae rhai o'n myfyrwyr PGR wedi rhannu gyda ni beth maen nhw'n ei wneud sy'n eu helpu gyda'u lles. O gerdded yn y mynyddoedd i wylio Netflix, mae'n bwysig i fyfyrwyr gymryd amser i wneud pethau maen nhw'n mwynhau y tu allan i'w prosiect ymchwil. Mae cadw cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd yn hanfodol i'ch lles.
Rydym hefyd wedi trefnu gweithgareddau ar gyfer myfyrwyr PGR yn unig, gan gynnwys y taith ymchwilwyr ôl-raddedig i Ben-y-Fan, a'n 'Cyri a Sgwrsio' dal i fyny. Weithiau mae'r daith PGR yn gallu bod yn anodd, ac mae'n gyffredin i fyfyrwyr deimlo'n ynysig ac yn unig. Gall creu cysylltiadau â myfyrwyr PGR eraill helpu i gael effaith gadarnhaol ar eich lles, ac mae'n gyfle da i ddianc o'ch desg am ychydig oriau hefyd!