Dewiswch astudio naill ai ar lefel Doethuriaeth neu radd Meistr.
Byddwch yn cynnal prosiect ymchwil unigol ar bwnc cymeradwy ac yn cael eich goruchwylio gan staff academaidd sydd â gwybodaeth arbenigol am y pwnc.
Byddwch yn cael mynediad at galendr o gyfleoedd datblygu sgiliau i'ch cefnogi yn eich ymchwil.
Os ydych yn astudio'n amser llawn disgwylir i chi dreulio tua 35 awr yr wythnos ar eich ymchwil.
Os ydych chi'n astudio ar gyfer doethuriaeth broffesiynol, bydd angen i chi fel arfer yn ogystal â chyflawni modiwlau neu gydrannau strwythurol a chwblhau asesiadau fel rhan o’ch gradd. Dylech gyfeirio at raglenni unigol am fanylion.
Gallwch wneud cais am raddau ymchwil ar-lein. Cyn i chi wneud cais, dylech gymryd golwg ar ein gwybodaeth i ymgeiswyr.
Cofiwch y gall gymryd hyd at wyth wythnos i benderfyniad gael ei wneud ar eich cais. Y rheswm am hyn yw y bydd eich cynnig ymchwil fel arfer yn cael ei adolygu gan ddau aelod o staff academaidd a bydd gofyn i chi ddod i gyfweliad cyn i unrhyw gynnig o le gael ei wneud.
Os hoffech holi ynghylch statws eich cais, gallwch gysylltu â'r Ysgol Graddedigion
Ar gyfer Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth, cysylltwch â:
Llinos Spargo
Ebost: [email protected]
Ffôn: 01443 483568
Ar gyfer y diwydiannau creadigol, busnes, dyniaethau a gwyddorau cymdeithasol cysylltwch â:
Alison Crudgington
Ebost: [email protected]
Ffôn: 01443 654269
Ar gyfer y Gwyddorau Bywyd/Addysg, cysylltwch â:
Jane MacCuish
Ebost: [email protected]
Ffôn: 01443 482788
Gwybodaeth am ysgoloriaethau a ariennir yn benodol.
Canllawiau i ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn astudio gradd ymchwil.
Ffioedd
dysgu ar gyfer rhaglenni gradd ymchwil.