Rhaid cyflwyno cynnig ymchwil oni bai eich bod yn gwneud cais am efrydiaeth wedi'i hariannu sydd â phrosiect penodol. Defnyddiwch ein templed cynnig ar gyfer hyn. Er mwyn cael y cyfle gorau o lwyddo, dylai eich cynnig ymchwil fod ar bwnc sy'n cyd-fynd â themâu un o'n Grwpiau Ymchwil ac Arloesi.
Ni fydd eich cynnig yn fwy na 2000 o eiriau a bydd yn galluogi'r darllenydd i gael dealltwriaeth glir o'r ymchwil yr ydych yn bwriadu ei wneud a'r cyd-destun.
Yn y bôn, bydd y darllenydd yn cael atebion i'r cwestiynau "beth?", "pam?" a "sut?" h.y. beth yw'r ymchwil, pam mae'n cael ei gynnal, sut mae'n mynd i gael ei gynnal.
Yn achos PhD, rhaid i'r cyfraniad gwreiddiol disgwyliedig at wybodaeth a'r ffurf arfaethedig o gyflwyno, e.e. traethawd ymchwil, portffolio neu gyhoeddiad, fod yn glir. Os yw'r cyflwyniad arfaethedig yn cynnwys gwaith creadigol, dylid tynnu sylw at hyn hefyd.
Dylech hefyd nodi a ydych wedi ystyried unrhyw faterion moesegol posibl sy'n gysylltiedig â'ch prosiect arfaethedig.
Bydd cynnig nodweddiadol yn cynnwys:
- Adran ragarweiniol sy'n nodi'r cwestiwn ymchwil a/neu'r cyd-destun y mae'r ymchwil yn eistedd ynddo. Dylai hyn gynnwys disgrifiad byr o waith blaenorol perthnasol gyda chyfeiriadau llenyddiaeth allweddol, neu ffynonellau gwybodaeth os yw'n briodol. Dylai gynnwys datganiad o nodau ac amcanion sy'n mynd i'r afael â'r cwestiynau "beth?" a "pam?".
- Gwybodaeth am y gwaith sy'n mynd i gael ei wneud gan gynnwys y methodolegau cynlluniedig a pham y cawsant eu dewis. Mae cynllun prosiect dros dro neu siart Gantt yn ddefnyddiol.
- Datganiad ynghylch natur y cyflwyniad e.e. traethawd ymchwil, portffolio neu gyhoeddiad (yn achos PhD), ac a fydd y cyflwyniad yn cynnwys unrhyw waith creadigol neu allbynnau eraill.
- Rhestr o gyfeiriadau allweddol.
Nid bwriad y cynllun uchod yw bod yn rhagnodol, a gall gwahanol ddisgyblaethau strwythuro cynigion yn wahanol, sy'n gwbl ddealladwy a derbyniol.