Mae Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS) yn fenter sgiliau lefel uwch ar draws Cymru a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe'i hariennir yn rhannol gan raglen Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a'r Cymoedd, a rhaglen ESF Llywodraeth Cymru ar gyfer Dwyrain Cymru.
Mae gan y rhaglen KESS ysgoloriaethau penodol ar gael lle mae'n rhaid i'r cyfranogwr fyw yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd neu ddwyrain Cymru. Gweler y 'Pecyn Gwybodaeth' ar gyfer map o breswylfeydd yng Nghymoedd Dwyrain vs Gorllewin Cymru.
KESS a Benthyciadau Gradd Ddoethur Ôl-raddedig
Mae Rheoliadau Addysg 2018 (Benthyciadau Gradd Doethur Ôl-raddedig) (Cymru) yn ei gwneud yn glir nad yw myfyriwr KESS yn gymwys i gael benthyciad gradd doethur ôl-raddedig, oherwydd byddant yn derbyn cymorth KESS 2.
Er gwybodaeth, cyfeiriwch at yr hyperddolen uchod, yn benodol cymal (3) (m): “A person (“A”) is not an eligible student if — there has been bestowed on or paid to A, in relation to the course, any allowance, bursary or award made under the KESS 2 Scheme.
Mae'n gyfrifoldeb ar ymgeiswyr KESS (a myfyrwyr apwyntiedig KESS) i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
Mae'n amod cymhwystra ar gyfer cyllid KESS 2 nad ydych wedi gwneud cais amdano, nac yn bwriadu ymgeisio amdano, ar gyfer Doethuriaeth neu Fenthyciad Meistr ymchwil.
Mae manylion yr ysgoloriaeth i'w gweld yma
Dyddiad cau: 30-05-22
Dyddiad dechrau: Hydref '22
Mae nifer o fwrsarïau, ysgoloriaethau ac opsiynau ariannu ar gael i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
Ffioedd a Chyllid Ôl-raddedig (gan gynnwys benthyciadau Gradd Meistr a
Doethuriaeth)
Cynghrair Hyfforddiant Doethurol