PhD _ Research Students Pen y Fan 2022

Myfyrwyr ymchwil Ôl-raddedig Presennol

Eich cefnogi drwy eich astudiaethau

Byddwch yn cael cyngor ac arweiniad rheolaidd gan eich tîm goruchwylio. Yn ogystal, mae'r Ysgol Graddedigion yn darparu cyngor a chefnogaeth ar bob agwedd o daith y myfyriwr ymchwil ôl-raddedig.

Mae'r Ysgol Graddedigion yn trefnu calendr o ddigwyddiadau ac yn cydlynu cronfa ymgysylltu allanol i gefnogi ymchwilwyr ôl-raddedig.

Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn, mae disgwyl i chi dreulio tua 35 awr yr wythnos ar eich ymchwil; os yn rhan-amser, mae disgwyl i chi dreulio tua 12 awr yr wythnos yn astudio.

Byddwch yn cael o leiaf un cyfarfod goruchwylio misol ffurfiol, er yn ymarferol efallai y byddwch yn cyfarfod â'ch goruchwylwyr yn amlach na hyn.  Yn aml bydd hyn yn dibynnu ar eich maes disgyblaeth a'ch cam astudio.  Dylai cyfarfodydd goruchwylio ffurfiol gael eu cofnodi ar PhD Manager lle gallwch hefyd lanlwytho nodiadau cyfarfod.

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol dylech gyfeirio at y Gweithdrefnau ar gyfer Ymchwilwyr Ôl-raddedig Rhyngwladol i gael gwybod am ofynion presenoldeb ac ymgysylltu.

Sylwch: Nid yw tymor y Brifysgol yn berthnasol i fyfyrwyr ymchwil; disgwylir i chi fod yma drwy gydol y flwyddyn oni bai bod gennych wyliau blynyddol neu fod y Brifysgol wedi'i chau'n swyddogol e.e. gwyliau'r Nadolig a gwyliau banc.

Bydd eich cynnydd tuag at gwblhau'r gwaith yn cael ei fonitro bob blwyddyn.  Byddwch yn cwblhau adolygiad cynnydd blynyddol a bydd eich tîm goruchwylio yn ychwanegu eu sylwadau, ac yn graddio eich cynnydd hyd yn hyn. 

Bydd y Pwyllgor Graddau Ymchwil Cyfadrannol yn defnyddio'r wybodaeth hon i benderfynu a ydych yn cael eich gwahodd i barhau ar gyfer y sesiwn academaidd nesaf.  Felly mae'n hanfodol eich bod yn cwblhau eich adolygiad cynnydd mewn da bryd.

Byddwch yn cael nodyn atgoffa gan y rheolwr PhD pan fydd yn amser i chi gyflwyno'ch adolygiad blynyddol.  Anfonir negeseuon atgoffa at eich cyfrif e-bost myfyrwyr felly dylech fynd i'r arfer o wirio hyn a mewngofnodi i PhD Manager bob dydd.  

Y broses drosglwyddo

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer MPhil/PhD, byddwch yn gwneud cais i drosglwyddo neu uwchraddio i astudio ar lefel doethuriaeth o fewn 12 mis o gofrestru cychwynnol (os yn amser llawn) ac o fewn 24 mis i gofrestru (os yn rhan-amser cofrestredig).

Byddwch yn cyflwyno adroddiad trosglwyddo o hyd at 6000 o eiriau drwy PhD Manager.  Adolygir eich adroddiad trosglwyddo gan academydd annibynnol yn eich maes pwnc a fydd hefyd yn cynnal trosglwyddiad viva.

Trosglwyddo canlyniad

Os yw eich arbenigwr annibynnol i argymell eich bod yn parhau ar lwybr PhD, mae'n rhaid iddynt gael eu hargyhoeddi bod eich cynnydd ac ansawdd eich gwaith yn foddhaol a'ch bod yn debygol o allu dangos cyfraniad gwreiddiol yn yr amser sydd gennych yn weddill.

I gael rhestr lawn o'r canlyniadau posibl, cyfeiriwch at y Rheoliadau Graddau Ymchwil.

Beth i'w gynnwys yn eich adroddiad trosglwyddo

Dylai eich adroddiad trosglwyddo gynnwys adolygiad byr a thrafodaeth o waith sydd eisoes wedi'i wneud a datganiad o waith pellach, gan gynnwys manylion unrhyw gyfraniad gwreiddiol at wybodaeth sy'n debygol o ddeillio o'ch ymchwil.

Os ydych yn gofrestredig yn amser llawn, mae hawl gennych i gymryd hyd at 35 diwrnod y flwyddyn o wyliau blynyddol (heb gynnwys gwyliau banc a diwrnodau cau). Mae’r rhain yn rhedeg o 1 Hydref i 30 Medi. Os oes gennych wyliau yn weddill ar ddiwedd eich cyfnod absenoldeb, gallwch gario uchafswm o bum niwrnod ymlaen.

I'r rhai ohonoch sy'n dechrau eich astudiaethau ym mis Ionawr neu Ebrill, cyfrifir eich absenoldeb gwyliau blwyddyn gyntaf ar sail pro-rata e.e. os byddwch yn dechrau ym mis Ebrill bydd gennych 17.5 o wyliau i'w cymryd rhwng mis Ebrill a mis Hydref.

Os ydych yn fyfyriwr cartref/UE, cytunir are ich gwyliau blynyddol gyda’r Cyfarwyddwr Astudio a dylech gadw cofnod o hyn.

Os ydych yn Fyfyriwr Rhyngwladol dylech gyfeirio at y Gweithdrefnau ar gyfer Ymchwilwyr Ôl-raddedig Rhyngwladol

Mae amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys Rheoliadau, Codau Ymarfer, Fframwaith Llywodraethu Ymchwil a dogfennau defnyddiol eraill ar gael yma.

Mae ein Harddangosfa Ymchwilwyr Ôl-raddedig yn dathlu ymchwil ysbrydoledig ac arloesol o bob rhan o'n cymuned ymchwil ôl-raddedig. Mae'r digwyddiad yn rhoi profiad gwerthfawr i ymchwilwyr ôl-raddedig i gyfathrebu a lledaenu eu hymchwil. Mae hefyd yn caniatáu i’r gymuned academaidd ofyn cwestiynau sy'n ysgogi'r meddwl a darparu adborth defnyddiol, yn ogystal â ffurfio cysylltiadau a phosibiliadau i gydweithio. 


Anawsterau Ariannol
Gall y brifysgol gynnig cefnogaeth i fyfyrwyr y DU sy'n profi anawsterau ariannol.


Llesiant
Mae'r Gwasanaeth Lles yn cynnwys: y Gwasanaeth Iechyd, ar gyfer eich anghenion iechyd corfforol, y Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Chwnsela, ar gyfer eich anghenion iechyd meddwl, a'r Gwasanaeth Anabledd ar gyfer cymorth ag anableddau.

Ardal Gynghori
Rydyn ni'n cynnig cyngor cyfrinachol ar unrhyw beth sy'n effeithio ar eich gallu i astudio, ac rydyn ni'n gweithio gydag ystod o wasanaethau eraill i sicrhau eich bod chi'n derbyn y gefnogaeth gyffredinol sydd ei hangen arnoch chi.