“Mae cymryd amser i siarad â chleifion yn hanfodol ar gyfer eu gofal”

Hilary Dyer - Masters by Research student


I nodi Diwrnod Rhyngwladol Nyrsys (Dydd Iau 12 Mai) rydym yn siarad â rhai o’n graddedigion Nyrsio ysbrydoledig sy’n parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu proffesiwn.

Mae Hilary Dyer, nyrs iechyd meddwl a weithiodd ar wardiau acíwt am gyfnod byr yn ystod y pandemig COVID-19, yn astudio gradd Meistr trwy Ymchwil sy’n archwilio effaith adrodd storïau digidol ar iechyd, gyda’r nod o gyfrannu at ddulliau newydd o brofiadau cleifion ac arfer a pholisi gofal iechyd.

Yn flaenorol yn gweithio ym maes AD ac fel rheolwr practis meddyg teulu, roedd Hilary wedi bod eisiau ailhyfforddi fel nyrs iechyd meddwl ers peth amser, yn wreiddiol oherwydd bod ganddi ddau ffrind â diagnosis o anhwylder affeithiol deubegwn a gwelodd drosti ei hun y niwed mawr y gall salwch meddwl ei achosi.

Wedi’i sbarduno i fod yn nyrs, astudiodd Hilary Nyrsio Iechyd Meddwl yn PDC a graddio yn 2019, gan ddechrau gweithio ar uned iechyd meddwl Dewi Sant yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Erbyn i'r pandemig daro, roedd Hilary wedi symud i'w swydd ddelfrydol o iechyd meddwl gofal sylfaenol yn y gymuned, a chafodd ei drafftio'n ddiweddarach i'r wardiau iechyd meddwl acíwt am ychydig fisoedd oherwydd prinder staff.

“Roedd bod ar y wardiau yn ystod y pandemig yn heriol iawn i gleifion a staff,” meddai Hilary. “Doedd cleifion ddim yn gallu gadael y ward na chael unrhyw ymwelwyr, felly roeddwn i wir yn teimlo drostyn nhw.”

Ym mis Hydref y llynedd, cafodd gyfle i ddychwelyd i astudio’n llawn amser gyda’r cwrs Meistr, sy’n cael ei ariannu gan y rhaglen Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS). Mae astudiaethau Hilary yn cael eu goruchwylio gan Ganolfan Adrodd Storïau George Ewart Evans PDC ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar effaith adrodd storïau digidol ar iechyd.

“Rwy’n angerddol am ddarparu gofal rhagorol, ac roedd fy ymdrech i wneud yn well yn rhan o’m penderfyniad i ymgymryd â’r cyfle gwych hwn.”

Defnyddir adrodd storïau digidol ar hyn o bryd o fewn gofal iechyd ar gyfer addysg, eiriolaeth, ymarfer myfyriol, hybu iechyd ac ymchwil. Gan ei fod yn cael ei yrru gan y cyfranogwr, mae tystiolaeth yn awgrymu ei fod o fudd i storïwyr a’r gynulleidfa, gan arwain at welliannau drwy newidiadau dilynol mewn arferion a pholisi.

“Rwy’n teimlo mor ffodus i fod yn rhan o’r prosiect hwn – mae adrodd storïau digidol yn ddull hynod ddiddorol o archwilio’r ffordd rydym yn darparu gofal,” meddai Hilary.

“Mae clywed rhywun yn siarad am y profiad maen nhw wedi'i gael - cadarnhaol neu negyddol, oherwydd bod storïau digidol hefyd yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at ofal da - yn wirioneddol ddylanwadol. Mae gwrando o ddifrif ar stori claf yn darparu cyd-destun a dealltwriaeth sy’n hanfodol wrth ddarparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.”

“Gall gwerthfawrogi profiad cleifion ein helpu i ddysgu mwy am yr effaith y mae staff a sefydliadau yn ei chael ar ofal iechyd, gan ddarparu cyfleoedd dysgu a herio’r ffordd y darperir gofal i wella effeithiolrwydd.”


#unilife-cymraeg