PDC ymhlith y 25% uchaf o brifysgolion o ran profiad ymchwil ôl-radd

Gabrielle Hale - PhD Student in Psychology

Gabrielle Hale, myfyrwraig PhD Seicoleg



Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ei rhestru ymhlith y 25% uchaf o brifysgolion y DU gyfan yn yr Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-radd diweddaraf (PRES).


Yn ôl yr arolwg blynyddol, sy'n cael ei gynnal gan Advance HE, roedd 83% o fyfyrwyr ymchwil ôl-radd PDC yn dweud eu bod yn fodlon â'u profiad yn y Brifysgol, sydd 3% yn uwch na'r meincnod byd-eang yn ogystal â chyfartaledd Cynghrair Prifysgolion y DU.

Mae PDC hefyd yn y 25% uchaf o sefydliadau o ran boddhad cyffredinol myfyrwyr, yn ogystal ag yn y meysydd canlynol:


  • Pandemig Covid-19 – 9% yn uwch na'r meincnod byd-eangSgiliau Ymchwil – 2il uchaf yn fyd-eang o blith 58 o sefydliadau
  • Cyfrifoldebau – 5ed uchaf yn fyd-eang o blith 58 o sefydliadau
  • Dilyniant – 10fed uchaf yn fyd-eang o blith 58 o sefydliadau

Dangosodd yr arolwg fod 76% o'r ymatebwyr yn gwerthfawrogi gwerthoedd PDC, a’i hymateb i adborth myfyrwyr ymchwil ôl-radd, sydd 15% yn uwch na'r meincnod byd-eang a 12% yn uwch na meincnod Cynghrair y Prifysgolion; gyda 93% o'r ymatebwyr yn cadarnhau eu bod yn deall y safonau gofynnol ar gyfer eu traethawd ymchwil.

Yng Nghymru, sgoriodd PDC 5.3% yn uwch na'r sector o ran sgiliau ymchwil, gyda 97% o'r ymatebwyr yn dweud eu bod yn teimlo bod eu sgiliau dadansoddi a gwerthuso canfyddiadau a chanlyniadau wedi datblygu yn ystod eu rhaglen. Roedd y Gwyddorau Cymdeithasol a STEM ymhlith y meysydd a berfformiodd orau yn PRES 2022.

Dywedodd Dr Elaine Huntley, Rheolwr yr Ysgol i Raddedigion yn PDC: "Mae'r Ysgol i Raddedigion yn cynnig hyfforddiant i fyfyrwyr ymchwil ôl-radd ar sgiliau ymchwil generig, a pharatoi ar gyfer trosglwyddo a’r cyflwyno terfynol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, trwy greu Bwrdd yr Ysgol i Raddedigion, a defnyddio cyfleoedd mewn digwyddiadau i fwydo'n ôl, bu ffocws cryf ar glywed llais y myfyrwyr; mae'r gwaith ar 'gau'r ddolen adborth' yn parhau gyda mentrau pellach ar y gweill dros y flwyddyn nesaf."

Mae Simone Hatchard yn gwneud PhD mewn Troseddeg, yn canolbwyntio ar ddefnyddio fforenseg ddigidol ac ymchwilio i droseddau mawr yng Nghymru a Lloegr. Dywedodd: "Roeddwn i'n teimlo fy mod wedi cael cefnogaeth fawr gan yr Ysgol i Raddedigion a fy nhîm goruchwylio yn ystod pandemig Covid-19. Roeddwn i’n cael fy ngoruchwylio ar-lein rheolaidd ac roeddwn i bob amser yn teimlo'n rhan o gymuned PhD.

"Yn ystod fy astudiaethau PhD, rwyf wedi bod ar sawl cwrs hyfforddi oedd wedi'u cynllunio i wella sgiliau ymchwil, trwy'r Brifysgol a'r Gynghrair Hyfforddiant Doethurol, sy'n ariannu fy ymchwil yn rhannol ynghyd â Heddlu De Cymru.

"Rwyf wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan y Brifysgol i fy ngalluogi i gyflwyno mewn cynhadledd ymchwil. Gwnaeth fy Athro hefyd drefnu i fi gael egwyl fer o fy astudiaethau i ymgymryd â swydd cynorthwyydd ymchwil â thâl. Gwnaeth y swydd hon fy helpu i wella fy sgiliau ymchwil oedd yn gymorth mawr pan ddaeth hi’n bryd dadansoddi fy nata fy hun."

Cwblhaodd Gabrielle Hale ei gradd israddedig a'i MScyn PDC, ac mae bellach yn gwneud PhD sy'n gwerthuso effaith iechyd meddwl rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc gan ymddiriedolaethau elusennol sydd ynghlwm wrth glybiau pêl-droed proffesiynol yn y DU.

Dywedodd: "Mae'r gefnogaeth rwyf wedi’i chael drwy gydol fy nghyfnod yn astudio'r PhD wedi bod yn wych. Rwyf wedi cael llawer o gyfleoedd i barhau â fy natblygiad proffesiynol, sydd wedi cynnwys gallu cyflwyno fy nghanfyddiadau PhD mewn cynadleddau a chyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol wedi’u hadolygu gan gyfoedion.

"Ers dechrau'r PhD, rwyf hefyd wedi cael fy nghefnogi i ddatblygu fy mhrofiad addysgu. Dechreuais gysgodi darlithwyr eraill yn ystod gweithdai Dulliau Ymchwil israddedig i ddechrau, a dros y pum mlynedd diwethaf, rwyf wedi cyfoethogi fy CV ac wedi cael mwy o gyfleoedd a chyfrifoldebau addysgu i ddatblygu fy sgiliau ymhellach. Ers hynny rwyf wedi cael swydd ddarlithio barhaol yn PDC ac rwyf bellach yn dysgu ar y cyrsiau y bues i’n fyfyriwr arnyn nhw gynt. Mae'n wych gallu rhannu fy angerdd dros ymchwil ag eraill, ac ysbrydoli myfyrwyr eraill hefyd gobeithio."




#featured #promoted