Cadeiryddion viva

Rheoliadau Graddau Ymchwil

Gellir gweld Rheoliadau ar gyfer Rhaglenni Gradd Ymchwil yma.

Eich rôl fel Cadeirydd

Rydych wedi cael eich penodi fel person annibynnol i gadeirio’r arholiad viva voce a rhag-gyfarfod yr arholwyr.

Byddwch yn sicrhau bod y dull o gynnal yr archwiliad yn deg ac yn unol â Rheoliadau'r Brifysgol.

Fel arfer, byddwch yn:

  1. meddu ar ddealltwriaeth glir o reoliadau a gweithdrefnau’r Brifysgol, a chydymffurfio'n llawn â hwy
  2. meddu ar brofiad o oruchwylio ac arholi graddau ymchwil; a
  3. wedi cael hyfforddiant priodol o fewn y pum mlynedd diwethaf.

Gellir dod o hyd i ganllawiau ar gyfer Cadeiryddion Viva yma.

Byddwch yn cwblhau rhestr wirio’r Cadeirydd ac yn sicrhau bod yr arholwyr yn cwblhau adroddiad ar y cyd ar ôl viva (neu adroddiadau ar wahân lle bo angen) a rhaid i chi sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflwyno i'r Ysgol Graddedigion ar ôl viva.

Os bydd angen unrhyw gyngor arnoch ar y diwrnod, cysylltwch â Rheolwr yr Ysgol Graddedigion